Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gorllewin Morgannwg 2022-2027
Mae’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth (AAB) yn ymarfer ar y cyd sy’n cael ei gynnal gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i gasglu gwybodaeth am les pobl a’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cyflawni ymdeimlad o les. Mae hefyd yn ceisio penderfynu ar anghenion gofal a chefnogaeth pobl (gan gynnwys bylchau yn y fath ddarpariaeth) fel y gellir datblygu a thargedu gwasanaethau’n unol â hyn.
Mae Rhan 2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn nodi bod yn rhaid llunio AABau yn rhanbarthol a threfnu eu bod ar gael ar ffurf adroddiad. Cyhoeddwyd yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth cyntaf yn 2017 cyn i Ben-y-bont ar Ogwr adael hen ranbarth ‘Bae’r Gorllewin’.
Rydym bellach wedi cael y cyfle i ddiweddaru’r cynnwys fel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gorllewin Morgannwg yn unol â’r cylch pum mlynedd rhagnodedig a amlinellir yn y Ddeddf.
Mae’r AAB yn mynnu bod yr holl BPRhau yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth a fydd yn ceisio nodi:
- faint o bobl yn y rhanbarth y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt
- faint o ofalwyr yn y rhanbarth y mae angen cefnogaeth arnynt
- faint o bobl yn y rhanbarth nad yw eu hanghenion gofal a chefnogaeth yn cael eu diwallu
- amrediad a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chefnogaeth y boblogaeth, ac anghenion gofalwyr
- amrediad a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i atal pobl rhag bod ag angen gofal a chefnogaeth neu lefelau uwch o ofal a chefnogaeth
- y camau gweithredu y mae eu hangen i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r bennod arweiniol yn darparu rhagor o wybodaeth am yr ymagwedd a gymerwyd yng Ngorllewin Morgannwg.
Cliciwch ar y delweddau isod i gyrchu’r penodau unigol yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth.