Rhaglen Dementia
Mae rhaglen Dementia Gorllewin Morgannwg yn rhan o’r rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl ehangach.
Diben y rhaglen Dementia yw goruchwylio gweithrediad y Strategaeth Dementia Ranbarthol a Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig.
Mae dementia yn derm eang a ddefnyddir i ddisgrifio ystod o gyflyrau sy’n effeithio ar yr ymennydd. Mae’n effeithio ar un o bob 20 o bobl dros 65 oed, ac un o bob 5 o bobl dros 80 oed, ond mae hefyd yn bwysig ystyried y rheini sydd â dementia cynnar.
Mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn ymroddedig i wella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, drwy ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac wedi’u targedu.
Mae’r rhanbarth yn y broses o gydgynhyrchu Strategaeth Dementia Ranbarthol ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i roi’r Rhaglen Dementia Genedlaethol ar waith. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol statudol ac anstatudol i ddatblygu modelau gofal newydd a phrosiectau sydd â’r nod o gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i wella trefniadau rhannu gwybodaeth a chydweithio effeithiol, gyda phwyslais ar atal.
Mae Gorllewin Morgannwg yn ariannu amrywiaeth o grwpiau cymunedol sy’n cefnogi’r rheini sy’n byw gyda dementia.