Cymorth Gwirfoddoli Gorllewin Morgannwg
Prosiect amlasiantaeth yw Cefnogaeth Gwirfoddoli Gorllewin Morgannwg (CGGM), sy’n cynhyrchu adnoddau a rennir i ddatblygu gwybodaeth, rheolaeth a chydlyniant gwirfoddolwyr a sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ar draws ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Dyma bartneriaid prosiect Cefnogaeth Gwirfoddoli Gorllewin Morgannwg:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Cyngor Abertawe
- Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe a
- Thîm Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.
Strategaeth ac Egwyddorion Gwirfoddoli Rhanbarthol
Mae Strategaeth ac Egwyddorion Gwirfoddoli Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg yn amlinellu sut mae’r rhanbarth yn bwriadu cydweithio i wella gwirfoddoli, yn ogystal â’r egwyddorion allweddol yn ein hardal.
Lawrlwythiadau
Llwybrau
Mae’r adrannau canlynol wedi’u rhannu’n dibynnu a ydych yn chwilio am adnoddau ar gyfer gwirfoddolwyr neu sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr.
Adnoddau ar gyfer Gwirfoddolwyr
Ydych chi’n wirfoddolwr neu a oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli? Mae gennym amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys y camau cyntaf tuag at wirfoddoli, gwirfoddoli fel gyrfa ac enghreifftiau o gyfleoedd gwirfoddoli!
Adnoddau ar gyfer Sefydliadau
Ydych chi’n sefydliad y mae ganddo ddiddordeb mewn cynnwys gwirfoddolwyr? Mae gennym amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys datblygu cyfleoedd, treuliau, y Gymraeg a llawer mwy!