Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #11
Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!
Mae hon yn fenter newydd lle byddwn yn trafod ein rhaglenni gwaith rhanbarthol.
Croeso i 11eg rhifyn ein Dyddiadur Cydweithio ay y Cyd. Y tro hwn byddwn yn ffocysu ar weithgareddau Bwrdd Llywio a Chynghori 2 (BLlaCh2), a gyfarfu ar 3 Medi. Mae BLlaCh2 yn cwmpasu tair rhaglen ranbarthol—‘Lles ac Anabledd Dysgu’, ‘Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl’, a ‘Dementia’.
Llesiant ac Anabledd Dysgu – Trafod Trafnidiaeth
Os cawsoch ein cylchlythyr diweddaraf, byddwch yn gwybod ein bod yn paratoi ar gyfer gweithdy i ganolbwyntio ar drafnidiaeth i bobl ag Anabledd Dysgu yn ein rhanbarth. Mae trafnidiaeth wedi’i nodi fel blaenoriaeth allweddol yn ein Strategaeth Anabledd Dysgu ranbarthol, ac roedd y gweithdy’n llwyddiant mawr gyda dros 70 o gyfranogwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o gwmnïau trafnidiaeth a chynlluniau trafnidiaeth gymunedol.
Mae Adam Lloyd, ein Swyddog Cymorth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, wedi dogfennu cynnydd y gwaith hwn ac wedi creu’r fideo canlynol a chwaraewyd i aelodau’r Bwrdd yn y cyfarfod:
Roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol, gydag un aelod yn ei alw’n: “Darn anhygoel o weithgaredd wedi’i gydgynhyrchu – da iawn i bawb a gymerodd ran!”
Wrth edrych i’r dyfodol, rydym yn edrych ymlaen at gyd-gynhyrchu Siarter Teithio Anabledd Dysgu a chreu adroddiad adborth ar gyfer cwmnïau teithio a chymdeithasau trafnidiaeth gymunedol. Nod yr ymdrechion hyn yw gwella ansawdd gwasanaeth yn seiliedig ar fewnwelediadau ac arbenigedd y rhai sydd â phrofiad byw.
Datblygiadau Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl
Derbyniodd aelodau’r Bwrdd diweddariad ar y Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl. Rydym yn datblygu model newydd ar gyfer comisiynu gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol trydydd sector. Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â thema ein strategaeth o “gydgysylltu” drwy fynd i’r afael ag anghenion cynyddol a mabwysiadu dull mwy strategol. Nod y model newydd yw trawsnewid ac uno gwasanaethau cymunedol, gan bwysleisio gweithio ar sail cryfder a chydgynhyrchu. Bydd hyn yn creu gwasanaeth mwy di-dor i unigolion sydd angen cymorth iechyd meddwl a lles.
Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi penodiad Dr. Zoe Fisher fel Arweinydd Rhaglen Glinigol newydd. Bydd Dr. Fisher yn dechrau yn ei swydd ganol mis Hydref.
Cynnydd yn y Rhaglen Dementia
Roedd y Rhaglen Dementia yn flaenorol yn rhan o’r Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl ehangach, ond daeth yn Rhaglen ynddi’i hun yn gynharach eleni. Rydym ar hyn o bryd yn datblygu cynlluniau i ymgysylltu â phobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr, a’u teuluoedd er mwyn llywio’r gwaith o greu Strategaeth Dementia Ranbarthol.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau dyraniad o £100,000 mewn cyllid rheolaidd ar gyfer swyddi ‘Cysylltydd Dementia’ yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae hyn yn cyflawni un o’n safonau dementia allweddol: ‘Sicrhau bod gan bobl sy’n byw gyda dementia enw cyswllt i gynnig cymorth, cyngor a chyfeirio drwy gydol eu taith o ddiagnosis i ddiwedd oes’.
Ymgysylltu â’r Gymuned: Uchafbwyntiau Diweddar
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf rydym wedi cymryd rhan mewn dau ddigwyddiad cymunedol gwych. Ar 29 Awst, aethon ni i Ddigwyddiad Llesiant Clwstwr Afan ym Mhort Talbot, ac yna ar 9 Medi, aethon ni i Siop Un Stop Heneiddio’n Dda Abertawe (un o’r rhai mwyaf maen nhw wedi’i chynnal hyd yn hyn!). Roedd y ddau ddigwyddiad yn gyfle gwerthfawr i gysylltu â phobl a sefydliadau, gan rannu gwybodaeth, syniadau a phrofiadau wyneb yn wyneb.
Rydyn ni nawr yn brysur yn paratoi ar gyfer digwyddiad cenedlaethol yr wythnos nesaf lle rydyn ni’n cael arddangos popeth mae ein rhanbarth wedi’i gyflawni. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd yr holl Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad ‘Tuag at system gofal cymunedol integredig i Gymru’ ar 16 Medi, ac edrychwn ymlaen at ddysgu mwy am ddulliau gweithredu ein cymheiriaid ledled Cymru.
Byddwn yn dod â mwy i chi am hyn a gweithgareddau allweddol eraill Gorllewin Morgannwg ar ôl y Bwrdd nesaf 😊