Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #15
Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!
Daliwch ati i ddarllen am ddiweddariadau ar ein rhaglenni gwaith rhanbarthol a straeon eraill yn ymwneud â gofod y bartneriaeth.
Croeso i’n cofnod Dyddiadur Gweithio ar y Cyd olaf ar gyfer 2024! Rydym bellach wedi bod yn gwneud hyn am flwyddyn lawn ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl adborth cadarnhaol rydym wedi’i gael ers lansio ym mis Ionawr.
Bwrdd Llywio a Chynghori (BLlCh) olaf y flwyddyn oedd BLlCh1, a gyfarfu ar 17 Rhagfyr. Mae BLlCh1 yn cwmpasu tair rhaglen ranbarthol – ‘Cymunedau a Phobl Hŷn’, ‘Partneriaeth Gofalwyr’ a ‘Dementia’.
Dyma rai uchafbwyntiau allweddol o’r rhaglenni gwaith hyn.
Cymunedau a Phobl Hŷn
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn fwrlwm o weithgarwch i’r Rhaglen Cymunedau a Phobl Hŷn. Mae’r ffocws wedi bod yn paratoi ar gyfer y Digwyddiad ‘Gweithio Gyda’n Gilydd’ a amlygwyd yn ein cofnod blaenorol. Cyflwynodd y tîm ‘dull system gyfan’ gan ddefnyddio cymeriadau ffuglennol i arlunio naratif yn seiliedig ar nifer o astudiaethau achos a gasglwyd dros y flynyddoedd diwethaf. Roedd y cyflwyniad hwn yn dangos sut mae prosiectau’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol (RIF) yn cydweithio i helpu unigolion i aros yn iach ac yn annibynnol.
Yn ogystal, rydym wedi bod yn datblygu ein strategaeth ranbarthol. Cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu i helpu i gytuno ar deitl a gweledigaeth ar gyfer y strategaeth. Bu’r rhain yn hynod werthfawr, ac yn y flwyddyn newydd, bydd y gweithgor strategaeth yn gwblhau a rhannu’r teitl a’r weledigaeth newydd.
Partneriaeth Gofalwyr
Yn ein diweddariad diwethaf am BLlCH1, rhoesom newyddion i chi am ein recriwt newydd, Rebecca Platt, sydd wedi bod yn ei swydd fel Swyddog Cyswllt Gofalwyr am bron dau fis ac sydd eisoes yn gwneud camau breision o ran cryfhau perthnasoedd â gofalwyr di-dâl, gwasanaethau, staff a gwirfoddolwyr.
Cadeiriodd Rebecca ei chyfarfod Fforwm Cyswllt Gofalwyr cyntaf ar 12 Rhagfyr, lle cafodd y rheini a oedd yn bresennol y cyfle i weld ffilm fer yn tynnu sylw at lwyddiant y digwyddiad ‘Gofalwyr Di-dâl – Rhoi Gweledigaeth ar Waith’ a gynhaliwyd ar 17 Medi:
Dilynwyd hyn gan drafodaethau ynghylch sut byddai adborth a gasglwyd yn y digwyddiad yn cael ei roi ar waith wrth i’r rhaglen waith hon barhau i ddatblygu.
Cytunwyd hefyd ar strwythur llywodraethu newydd i gyflwyno’r rhaglen, sy’n cynnwys dwy ffrwd waith: Mynediad at Wasanaethau, Gwybodaeth, Cyngor, Cymorth ac Ymwybyddiaeth a Gofalwyr Ifanc, gyda grŵp gorchwyl a gorffen ychwanegol yn gyfrifol am ddatblygu model comisiynu at y dyfodol ar gyfer gwasanaethau a ariennir ar hyn o bryd gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am gynnydd yn y maes gwaith hwn yn ein diweddariad nesaf ar BLlCh1.
Dementia
Efallai eich bod wedi gweld yr ohebiaeth ddiweddar ynghylch Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia Llywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys arolwg cyhoeddus a gaeodd yr wythnos diwethaf. Cyflwynwyd y Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia presennol yn 2018 ac mae Llywodraeth Cymru bellach yn dadansoddi’r adborth a gasglwyd drwy’r arolwg i benderfynu ar y meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt drwy gydol y broses ymgysylltu sydd ar ddod ar gyfer y darn hanfodol hwn o waith. Bydd yr holl gyfraniadau’n helpu i lunio fersiwn nesaf Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia.
Pan fydd gwaith ymgysylltu cenedlaethol wedi cychwyn, byddwn yn llunio’n hymagwedd at ymgysylltu ar gyfer Strategaeth Dementia Ranbarthol Gorllewin Morgannwg, gan sicrhau bod themâu allweddol yn cyd-fynd â’r darlun cenedlaethol.
Mae Ymgyrch Wrando Baglan yn parhau i gasglu adborth gwerthfawr am gefnogaeth a gwasanaethau dementia yn y gymuned. Caiff yr ymagwedd ei chyflwyno yn Abertawe yn 2025 gan ganolbwyntio ar ogledd y ddinas.
Yn olaf mae cynlluniau ar y gweill i groesawu Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru i ymweld â’n rhanbarth yn 2025. Mae’r Comisiynydd yn bwriadu ymweld â’r holl ranbarthau fel rhan o’i rôl er mwyn clywed yn bersonol gan bobl sy’n byw gyda dementia a’u hanwyliaid. Byddwn yn cysylltu â phrosiectau a ariennir drwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn y flwyddyn newydd a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i drefnu ymweliadau’r Comisiynydd.
Dyna’r cyfan gennym ni am eleni. Diolch eto am ddarllen, ac edrychwn ymlaen at roi rhagor o wybodaeth i chi ar gynnydd y Bwrdd nesaf yn 2025 😊