Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #16
Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!
Daliwch ati i ddarllen am ddiweddariadau ar ein rhaglenni gwaith rhanbarthol a straeon eraill yn ymwneud â gofod y bartneriaeth.
Croeso i’n Dyddiadur Gweithio ar y Cyd cyntaf ar gyfer 2025! Bydd dyddiadur heddiw’n un byr gan ein bod yn addasu i rai newidiadau sylweddol ar ddechrau’r flwyddyn newydd.
Roedd rhai heriau gwirioneddol yn 2024, gyda’r hinsawdd ariannol anodd yn effeithio ar sefydliadau ar draws y sector cyfan. Yn anffodus, bu’n rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd i dorri rhai swyddi yn nhîm Gorllewin Morgannwg i sicrhau cynaladwyedd ein gwaith yn y tymor hir. Mae wedi bod yn broses anodd iawn, gan fod ein tîm wrth wraidd popeth a wnawn.
Rydym wir yn gwerthfawrogi cyfraniadau’r cydweithwyr sydd wedi ein gadael ac rydym yn dymuno’r gorau i bob un ohonynt ar gyfer y dyfodol. Er nad yw’r newidiadau hyn byth yn rhai hawdd, rydym yn ymrwymedig i addasu a dod o hyd i ffyrdd newydd o barhau i weithio mewn partneriaeth mewn ffordd gadarnhaol a chynhyrchiol.
Bwrdd Llywio a Chynghori 2 (BLlaCH2)
Mae’r rhifyn hwn o’n dyddiadur yn canolbwyntio ar Fwrdd Llywio a Chynghori 2 (BLlaCh2), a gyfarfu ar 7 Ionawr. Derbyniodd yr aelodau drosolwg o waith y Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, a oedd yn cynnwys y diweddaraf am roi’r Strategaeth Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl ranbarthol ar waith.
Roedd cam datblygu allweddol yn cynnwys creu llif gwaith Model Comisiynu newydd, sydd wedi ystyried yr adborth a dderbyniwyd gan ddarparwyr y trydydd sector ac maent yn y broses o drefnu gweithdy i arfarnu opsiynau o fodelau comisiynu presennol. Bydd pobl y mae ganddynt brofiad bywyd yn rhan o’r broses i sicrhau bod canlyniadau’r model comisiynu yn y dyfodol yn cael eu cydgynhyrchu i ddiwallu anghenion y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau. Anghenion y cyhoedd fydd yn llywio’r ffordd y caiff model comisiynu yn y dyfodol ei ddylunio a’i ddarparu.
Mae gwaith i ddatblygu’r Fframwaith Lles rhanbarthol hefyd yn mynd rhagddo. Mae’r arweinydd ar gyfer y llif gwaith Cryfhau Gwasanaethau Gyda’n Gilydd wedi dechrau ar gyfres o weithdai i ddwyn ynghyd y fframweithiau lles presennol er mwyn ffurfio ymagwedd sy’n gweddu orau i’r rhanbarth.
Rhaglen Gomisiynu Ranbarthol
Bydd rhai newidiadau i BLlaCH2 eleni, wrth i’r Rhaglen Gomisiynu Ranbarthol newydd sbon gael ei sefydlu a bydd yn adrodd i’r bwrdd yn y dyfodol.
Trefnwyd gweithdy i gychwyn y rhaglen waith hon ar gyfer 24 Ionawr. Ei nod fydd archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd drwy adolygu canfyddiadau’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad a chwmpasu sut y gall sefydliadau gydweithio ac ychwanegu gwerth. Bydd cyfranogwyr hefyd yn rhannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu ac yn nodi’r blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer comisiynu.
Rydym yn edrych ymlaen at roi mwy o ddiweddariadau i chi am gynnydd y rhaglen newydd hon mewn rhifyn o’n dyddiadur yn y dyfodol.
Dyna’r cyfan am y tro – cymerwch ofal a bydd gennym ragor o newyddion ar ôl y cyfarfod BLlaCh nesaf 😊