
Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #17
Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!
Daliwch ati i ddarllen am ddiweddariadau ar ein rhaglenni gwaith rhanbarthol a straeon eraill yn ymwneud â gofod y bartneriaeth.
Croeso i gofnod diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd. Mae’r rhan hon yn canolbwyntio ar raglenni gwaith rhanbarthol yr adroddir amdanynt i Fwrdd Llywio a Chynghori 1, a gynhaliodd gyfarfod ar 18 Chwefror.
Yn gyntaf, trafododd aelodau’r Bwrdd rai newidiadau pwysig i amserlen cyfarfodydd y Bwrdd Llywio a Chynghori a fydd yn effeithio ar amlder cyhoeddiadau ein dyddiadur.
O 1 Ebrill, cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Llywio a Chynghori ar raglen chwarterol. Gan fod cyfanswm o dri Bwrdd Llywio a Chynghori, bydd hyn yn golygu y byddwch yn derbyn diweddariadau’r dyddiadur bob mis. Mae hwn yn newid bach ond arwyddocaol gan y bydd yn rhoi mwy o amser i bawb gyflawni’r gwaith a osodwyd yn ystod cyfarfodydd y Bwrdd Llywio a Chynghori.
Dyma rai diweddariadau allweddol eraill yn dilyn cyfarfod Bwrdd Llywio a Chynghori 1…
Yn Rhoi Sylw i Dŷ Bôn-y-maen
Efallai y byddwch yn ymwybodol o’r gwasanaeth ail-alluogi gwych yn Nhŷ Bôn-y-maen yn Abertawe. Mae’r cyfleuster yn cynnig cymorth tymor byr i bobl hŷn a all fod yn profi cyfnod o salwch ac y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt i’w helpu i deimlo’n gryfach ac osgoi cael eu derbyn i’r ysbyty. Mae rhai preswylwyr hefyd sy’n ddigon iach i gael eu rhyddhau ond y mae angen peth cymorth arnynt i adennill y sgiliau y mae eu hangen arnynt i allu byw’n annibynnol gartref eto wedi gadael yr ysbyty.
Mae’r gwasanaeth yn rhan o raglen ranbarthol Cymunedau a Phobl Hŷn a gwyliodd aelodau’r Bwrdd Llywio a Chynghori fideo a grëwyd gan Dîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu Gorllewin Morgannwg sy’n amlygu manteision Tŷ Bôn-y-maen a’i effaith ar fywydau’r rheini sydd wedi treulio amser yno:
Roedd aelodau staff a phreswylwyr Tŷ Bôn-y-maen hefyd yn falch o gynnal ymweliad gan Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ar 7 Chwefror. Gwnaeth popeth a welodd y Comisiynydd argraff dda iawn arni ac roedd yn falch o allu siarad â’r rheini a oedd yn defnyddio’r gwasanaethau am y camau gweithredu y byddai’n eu cymryd i gyflawni newid cadarnhaol i bobl hŷn.
Maes cynnydd allweddol arall ar gyfer y rhaglen Cymunedau a Phobl Hŷn oedd y gwaith parhaus o ran llunio Strategaeth Eiddilwch. Cytunwyd ar y teitl a’r weledigaeth a dyrannwyd cyllid i ddau Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol y rhanbarth i gynnal cyfres o weithgareddau cynnwys i lywio’r Strategaeth.
Byddwn yn rhoi diweddariadau i chi ar y camau nesaf ar gyfer y darn hwn o waith mewn rhifyn arall o’n dyddiadur yn y dyfodol.
Diweddariad ynghylch dementia
Derbyniodd aelodau Bwrdd Llywio a Chynghori 1 y diweddaraf am waith Bwrdd y Rhaglen Dementia, sydd wedi gweld peth newid ar ffurf Cadeirydd newydd. Mae Stephen Jones o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cymryd y rôl yn barod am ymddeoliad y Cadeirydd presennol, Malcolm Jones. Mae Malcolm yn bwriadu ymddeol ar ddiwedd mis Mawrth a hoffem ddiolch iddo am ei gyfraniad a dymuno’r gorau iddo am ei ymddeoliad.
Yn y cyfamser, cynhelir adolygiad o aelodau a ffrydiau gwaith unigol y Bwrdd dros yr wythnosau nesaf.
Un diweddariad sylweddol o ran prosiectau a ariennir gan Orllewin Morgannwg yw lansiad diweddar gwasanaeth ‘Cysylltwyr Dementia’ Y Groes Goch Brydeinig. Mae’r fenter hon yn helpu pobl â dementia a’u hanwyliaid i ddefnyddio’r system iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddarparu cyngor gwerthfawr ynghylch materion sy’n amrywio o gymorth lles i gyngor ariannol.
Mae’r gwasanaeth bellach wedi’i sefydlu ac yn barod i dderbyn atgyfeiriadau oddi wrth glinigau Asesu’r Cof ar draws y rhanbarth.
Swyddog Cyswllt Gofalwyr yn parhau i wneud cynnydd da
Mewn rhifyn cynt o’n dyddiadur, gwnaethom gyhoeddi penodiad Rebecca Platt fel y Swyddog Cyswllt Gofalwyr newydd. Mae Rebecca bellach wedi bod yn y swydd am 6 mis a gwnaethom sgwrsio â hi i drafod ei theimladau am y rôl. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud:
“Rwy’n mwynhau fy rôl newydd yn fawr. Rwyf wedi cyfarfod â phobl angerddol a grwpiau cymunedol gwych, pob un ohonynt yn hyrwyddo gofalwyr di-dâl a’r gwaith y maent yn ei wneud. Fel rhanbarth rydym yn gwybod bod llawer o waith i’w wneud i wella bywydau gofalwyr di-dâl, a thrwy gydgynhyrchu gyda gofalwyr di-dâl a phartneriaid gallwn lunio gwasanaethau lleol er gwell.”
Yn ei chyfnod byr yn y swydd, yng Nghyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (NPTCVS), mae Rebecca wedi gwneud cynnydd mawr i greu cysylltiadau pwysig gyda gofalwyr di-dâl a sefydliadau ar draws y rhanbarth. Ei meysydd gwaith allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod fydd helpu i drefnu a hwyluso’r digwyddiad ymgysylltu gofalwyr di-dâl blynyddol; cefnogi ymgysylltu ynghylch datblygu strategaeth newydd; a pharhau i godi lleisiau gofalwyr di-dâl yn y rhanbarth.
Dyna ddiwedd y rhifyn hwn. Edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith ac at rannu mwy o ddiweddariadau â chi yng nghofnod nesaf ein dyddiadur 😊