
Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #8
Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!
Mae hon yn fenter newydd i ni ar gyfer 2024, lle byddwn yn trafod ein rhaglenni gwaith rhanbarthol.
Croeso i gofnod diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd! Mae’r haf wedi dechrau yn swyddogol ac mae’r heulwen wir wedi codi calonnau 🌞
Rydym wedi cael sawl wythnos cyffrous, gan gynnwys cyfarfod o Fwrdd Llywio a Chynghori 2 (BLlCh2), cyfarfod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) a sesiwn gyntaf ein Fforwm Rheolwyr Gwirfoddoli. Dyma drosolwg o sut aeth y cyfan…
Bwrdd Llywio a Chynghori 2 (BLlCh2)
Mae BLlC2 yn cwmpasu tair rhaglen ranbarthol – ‘Lles ac Anabledd Dysgu’, ‘Dementia’ a ‘Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl’.
Mae rhifyn diweddaraf ein Cylchlythyr, a gyhoeddwyd yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu 2024 (17-23 Mehefin), yn rhoi cipolwg manwl ar gynnydd y rhaglen ‘Lles ac Anabledd Dysgu’. Nodwyd thema ‘Cludiant’ fel y flaenoriaeth gyntaf i’w symud ymlaen fel rhan o weithrediad y Strategaeth Anabledd Dysgu, ac ar 9 Gorffennaf bydd pobl ag Anabledd Dysgu yn dod ynghyd â darparwyr gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i drafod yr heriau y maent yn eu hwynebu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chadw lle ar y gweithdy hwn drwy fynd i Ticketsource.
Mae gwaith ar ail flaenoriaeth y Strategaeth, ‘Cael y Gofal a’r Cymorth Cywir’ hefyd yn dod yn ei flaen yn dda. Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod eisiau cymorth mwy hyblyg a mwy o lais yn y gofal a gânt gan y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, felly dyna fydd ffocws y rhaglen waith hon dros y 12 mis nesaf.
Y newyddion diweddaraf o ran y rhaglen ‘Dementia’ yw bod hyfforddiant bellach ar gael i unigolion, sefydliadau cymunedol a busnesau. Mae’r ‘Dementia Plus Awareness Training’ yn cael ei ddarparu gan Dementia Friendly Swansea, sydd hefyd yn rhedeg yr Hwbs Dementia ar draws ein rhanbarth (a ariennir drwy’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol, a weinyddir gennym ni yng Ngorllewin Morgannwg).
Rydym hefyd wedi gweld datblygiadau ar draws gwasanaethau meddygon teulu gan fod yr holl ymarferwyr bellach yn defnyddio ‘Codau Read’ i gategoreiddio gwahanol fathau o Ddementia. Dros amser, bydd hyn yn darparu data mwy cadarn a chyson a fydd yn helpu i wella gwasanaethau.
O ran ‘Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl’, roedd rhifyn 5 o’n Dyddiadur yn cynnwys diweddariad ar ymweliad diweddar gan Lywodraeth Cymru i’r ‘Congolese Development Project’. Chwaraewyd y stori ddigidol a recordiwyd ar y diwrnod yn BLlCh2 ac mae ar gael i’w gweld yma:
Derbyniodd aelodau’r Bwrdd ddiweddariad hefyd ar ddatblygiadau’r meysydd blaenoriaeth sef ‘Datblygu Model Comisiynu Newydd ar gyfer Sefydliadau Trydydd Sector a Sefydliadau Dielw’ a ‘Gwella Mynediad i Wasanaethau (sy’n canolbwyntio ar Gyfathrebu ac Ymgysylltu a Phwynt Mynediad Sengl/No Wrong Door)’.
Fforwm Rheolwyr Gwirfoddoli
Ar Ddydd Mercher 19 Mehefin, lansiwyd Fforwm Rheolwyr Gwirfoddolwyr Rhanbarthol newydd yng Nghanolfan Llys Nini ym Mhenllergaer, Abertawe. Daeth cyfranogwyr o amrywiaeth o sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ar draws ein rhanbarth, a rhoddodd pob unigolyn drosolwg o sut beth yw gwirfoddoli yn eu sefydliad. Dilynodd cyfres o drafodaethau a helpodd sefydlu cyfeiriad cyffredinol y Fforwm, ac mae’r adborth hyd yn hyn wedi bod yn wych! Bydd y Fforwm yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn – byddwn yn dod â mwy i chi ar sut mae’r Fforwm yn datblygu mewn rhifyn arall o’r Dyddiadur.

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh)
Cyfarfu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg ar ddydd Mawrth 25 Mehefin, a’r prif ffocws oedd cynnydd y Rhaglen Partneriaeth Gofalwyr. Cyflwynodd Gaynor Richards (Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr) ddiweddariad fideo ar y Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol. Roedd yr aelodau wedi’u plesio’n fawr gan yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma a chanmolwyd pawb a gymerodd ran, yn enwedig y Gofalwyr Di-dâl eu hunain sy’n gwirfoddoli eu hamser, eu sgiliau a’u profiadau gwerthfawr i sicrhau bod y Strategaeth yn parhau i ddarparu canlyniadau ystyrlon i Ofalwyr.
Cafodd ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24 ei gymeradwyo gan y Bwrdd hefyd ac mae ar gael i’w weld yma.
Diolch am ddarllen – fe welwn ni chi ar ôl y BLlCh nesaf 😊