Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #9
Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!
Mae hon yn fenter newydd i ni ar gyfer 2024, lle byddwn yn trafod ein rhaglenni gwaith rhanbarthol.
Croeso i’r nawfed rhan o Ddyddiadur Gweithio ar y Cyd Gorllewin Morgannwg!
Mae rhifyn heddiw yn cynnwys crynodeb o’r cyfarfod Bwrdd Llywio a Chynghori 3 (BLlCh3) diweddaraf, a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf ac mae’n canolbwyntio ar ddwy raglen waith ranbarthol: ‘Niwroamrywiol’ a ‘Plant a Phobl Ifanc’.
Mae gennym hefyd ddiweddariad ar ein gweithdy trafnidiaeth diweddar i bobl ag Anabledd Dysgu…
Rhaglen ‘Niwroamrywiol’
Nod y Rhaglen Niwroamrywiol yw datblygu Strategaeth Niwroamrywiol Rhanbarthol i bob oedran. Pwrpas y Strategaeth fydd gwella bywydau unigolion niwroamrywiol y mae angen cefnogaeth arnynt (p’un a ydynt wedi derbyn asesiadau ffurfiol ai peidio). Canlyniad allweddol y maes gwaith hwn oedd cynhyrchu menter ‘chwalu mythau’, a ariennir gan Raglen Gwella Niwrowahaniaeth Llywodraeth Cymru.
Roedd gan aelodau BLlCh3 y cyfle i weld animeiddiad a grëwyd gan Gyngor Abertawe ar gyfer rhieni neu ofalwyr sy’n meddwl bod gan eu plentyn/person ifanc Anhwylder y Sbectrwm Awtistig. Cymerwch gip, ac mae croeso i chi ei rannu â’ch cysylltiadau:
Datblygwyd llyfryn ‘Datblygu Sgiliau Cyfathrebu Cymdeithasol mewn Plant a Phobl Ifanc’ i helpu rhieni, gofalwyr a staff ysgol wrth feithrin sgiliau cyfathrebu cymdeithasol a rhyngweithio mewn plant a phobl ifanc.
Y cynllun dros y misoedd nesaf yw ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid a phobl â phrofiad byw i gyd-ddylunio’r Strategaeth ranbarthol newydd.
Mae cyd-weithio’n allweddol, a byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi ar y gwaith hwn ar ôl cyfarfod nesaf y BLlCh3 ym mis Medi.
Rhaglen ‘Plant a Phobl Ifanc’
O ran y Rhaglen ‘Plant a Phobl Ifanc’ rhanbarthol, derbyniodd aelodau BLlCh3 drosolwg manwl o gynnydd yr ymagwedd ‘dim drws anghywir’ arfaethedig ar gyfer Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant. Y nod yw creu llwybr mynediad integredig a syml at iechyd, cymuned a gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Caiff ymagwedd ‘Cyswllt Cyntaf, Ymateb Cywir’ ei rhoi ar waith yn seiliedig ar yr hyn sydd o bwys i bob unigolyn.
Trafod Trafnidiaeth
Rydym yn falch o ddweud bod y gweithdy wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu dros 70 o gyfranogwyr a hwyluso trafodaethau bywiog a chynhyrchiol am brofiadau pobl ag Anabledd Dysgu wrth ddefnyddio trafnidiaeth. Roedd cynrychiolwyr o gwmnïau trafnidiaeth a chynlluniau trafnidiaeth gymunedol hefyd yno i gymryd cwestiynau a chasglu adborth gwerthfawr.
Mae ‘Trafnidiaeth’ wedi’i nodi fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer y Strategaeth Anabledd Dysgu ranbarthol (cliciwch yma i weld copi), a byddwn yn rhoi diweddariad manylach i chi ar y darn hwn o waith yn y dyfodol.
Rydym yn gobeithio eich bod chi’n teimlo bod y crynodeb hwn yn ddefnyddiol – os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud ar draws y Bartneriaeth gyfan, mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24 ar gael nawr – www.westglamorgan.org.uk/wp-content/uploads/2024/06/West-Glamorgan-RPB-Annual-Report-2023-24.pdf