Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #12

Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!

Mae hon yn fenter newydd lle byddwn yn trafod ein rhaglenni gwaith rhanbarthol.

Croeso i rifyn 12 o’n -Dyddiadur Gweithio Ar y Cyd. Heddiw rydym yn canolbwyntio ar Fwrdd Llywio a Chynghori 3 (BLlCh3) sy’n cwmpasu dwy raglen ranbarthol – ‘Plant a Phobl Ifanc’ a ‘Neuroamrywiol’, a ddaeth at ei gilydd ar 24ain o Fedi.




Rhaglen ‘Plant a Phobl Ifanc’:
Derbyniodd aelodau BLlCh3 trosolwg manwl o’r gwaith presennol ar ‘Trawsnewid o Wasanaethau Plant i Oedolion ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth.’ Nod y gwaith hwn yw gwella’r cymorth a’r gwasanaethau y mae Plant a Phobl Ifanc yn eu derbyn wrth iddynt drosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethu oedolion, lle gallent dderbyn math gwahanol o wasanaeth fel oedolyn. Rydym wedi bod yn gweithio ar ddatblygu Egwyddorion a Safonau rhanbarthol:

  • Ar gyfer gweithwyr proffesiynol, nod hyn yw helpu i gynllunio a chefnogi trosglwyddiad di-dor o Wasanaethau Plant i Wasanaethau Oedolion.
  • Ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd/Gofalwyr, nod hyn yw gwella gwybodaeth a chydnabyddiaeth o’r cymorth a’r gwasanaethau y byddant yn eu derbyn gan Iechyd, Gofal Cymdeithasol ac Addysg wrth iddynt drosglwyddo o wasanaethau plant i oedolion.

Rhaglen Neuroamrywiol:

Mae’r rhaglen Neuroamrywiol yn parhau i ddatblygu Strategaeth Neuroamrywiol Rhanbarthol ar gyfer pob oedran, a fydd yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar anghenion i gefnogi pobl neuroamrywiol a’u teuluoedd (boed iddynt gael asesiadau ffurfiol, neu beidio).

Rydym am sicrhau bod pobl neuroamrywiol a’r rhai sy’n eu cefnogi yn gallu dweud wrthym beth sy’n bwysig iddynt er mwyn i ni allu datblygu a thrawsnewid cymorth a gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion. Cefnogodd y Bwrdd ein cynllun arfaethedig sy’n amlinellu sut y byddwn yn cynnwys aelodau o’r gymuned neuroamrywiol ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe i gyd-gynhyrchu’r dulliau ymgysylltu gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad byw. Cadwch lygad allan yn ystod yr wythnosau nesaf am gyfleoedd i gymryd rhan.

Bydd sesiynau galw heibio ychwanegol i rieni ar gael ar draws Abertawe a Castell-nedd Port Talbot yn ystod yr wythnosau nesaf – mae’r sesiynau galw heibio hyn yn canolbwyntio ar rannu a chyfeirio rhieni at adnoddau a dulliau sy’n bodoli o fewn gwasanaethau / cymunedau.

Digwyddiad Cenedlaethol Llywodraeth Cymru:

Roedd yn wych i gymryd rhan yn y digwyddiad cenedlaethol yng Nghaerdydd ar 16eg o Fedi 2024 lle gawsom gyfle i arddangos popeth y mae ein rhanbarth wedi ei gyflawni.

Gwahoddodd Llywodraeth Cymru holl Fyrdd Partneriaeth Rhanbarthol i ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad ‘Tuag at system gofal cymunedol integredig i Gymru’. Roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ddulliau ein cymheiriaid ar draws Cymru a rhannu arfer da, yn ogystal â chyfle rhwydweithio gwerthfawr iawn.

Yn y bore, cyflwynodd Hannah Davies gyflwyniad ardderchog ar Hwb Dementia Abertawe, prosiect a gychwynnwyd gan Dementia Friendly Swansea, grŵp gwirfoddol sy’n ymrwymedig i wella bywydau’r rhai sy’n byw gyda dementia. Mae’r Hwb, a agorwyd ym mis Ionawr 2022 yng nghanol y ddinas, yn gweithredu fel canolfan adnoddau hanfodol, gan godi ymwybyddiaeth, darparu gwybodaeth, a hybu cynhwysiant ar gyfer unigolion sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Mae’r fenter lwyddiannus hon bellach wedi’i hestyn i Gastell-nedd Port Talbot ac yn cynnwys hybiau symudol sy’n cyrraedd cymunedau.

Yn y prynhawn, hwylusodd Kelly Gillings, Cyfarwyddwr Rhaglen Gorllewin Morgannwg, a Rebecca Goodhand o Gwm Taf weithdy cyd-gynhyrchu a gafodd ei groesawu’n dda iawn.

Digwyddiad Gofalwyr Di-dâl yn Stadiwm Swansea.com:

Cawsom ddiwrnod anhygoel yn stadiwm Swansea.com ar 17eg o Fedi 2024, lle aethom i’r digwyddiad blynyddol sy’n canolbwyntio ar glywed gan ofalwyr di-dâl yn ein rhanbarth a Rhoi Gweledigaeth ar Waith.

Roedd yn wych clywed gan gymaint o ofalwyr di-dâl ar draws y rhanbarth am y cymorth a’r gwasanaethau y maent eu hangen er mwyn gofalu am eu hanwyliaid.

Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith gyda Gofalwyr Di-dâl ar ein gwefan yma 

Bûm yn bresennol yn y digwyddiad, ac fe wnaeth Martin Nicholls, Prif Swyddog Cyngor Abertawe, wneud sylwadau canlynol yn ei flog:

“Roedd yn wych bod yno yn y digwyddiad blynyddol ar gyfer gofalwyr di-dâl gan Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg ddydd Mawrth. Rydym yn buddsoddi miliynau o bunnoedd bob blwyddyn mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth bob dydd. Ond mae’n bwysig hefyd cydnabod a chefnogi cyfraniad hanfodol tua 41,000 o ofalwyr di-dâl yn ardal Gorllewin Morgannwg sy’n chwarae eu rhan hefyd, a dyna oedd pwrpas y digwyddiad. Gallwch ddarganfod mwy yma. Ond yn y cyfamser, diolch i bawb a drefnodd y digwyddiad a’r holl ofalwyr di-dâl sy’n rhoi cymaint.”

Digwyddiad Pen-blwydd 5 Mlynedd Fforwm Gofalwyr Rhieni Abertawe:

Cawsom ddiwrnod hyfryd wrth fynychu digwyddiad Pen-blwydd 5 Mlynedd Fforwm Rhieni-ofalwyr Abertawe yn Arena Abertawe ar 24ain o Fedi 2024! Roedd yn wych cwrdd â chymaint o Rhieni-ofalwyr Di-dâl sy’n cyfrannu cymaint i’n cymdeithas!

Gallwch ddysgu mwy am eu gwaith drwy ddilyn y ddolen hon: Fforwm Rhieni-ofalwyr Abertawe  

Dilyn blwyddyn brysur iawn o weithgareddau ymgysylltu, digwyddiadau a chyd-gynhyrchu ar draws y rhanbarth, roeddem yn meddwl y byddem yn rhannu sioe ddarluniau fideo o’r 12 mis blaenorol o weithio gyda’n gilydd gyda phartneriaid a thrigolion i sicrhau bod lleisiau, profiadau ac anghenion pobl yn ein rhanbarth yn ganolog i bopeth a wnawn fel Partneriaeth Ranbarthol. 

Yn olaf, mae gennym stori ddigidol gan un o’r prosiectau a ariennir drwy’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol drwy Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg.

Mae Y-Hub yn grŵp ieuenctid cyffredinol sy’n croesawu pob unigolyn rhwng 11 a 25 oed, wedi’i leoli yn Abertawe. Mae’n cynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i bobl ifanc gyda chefnogaeth broffesiynol, yn ogystal â bwyd poeth, cerddoriaeth a gweithdai/gweithgareddau.

Mae’r prosiect yn gwasanaethu pobl ifanc yn Abertawe sydd mewn perygl o gael eu cynnwys mewn llinell sirol, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac esgeulustod, yn ogystal â’r rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.