Dyddiadur 13

Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #13

Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!

Daliwch ati i ddarllen am ddiweddariadau ar ein rhaglenni gwaith rhanbarthol a straeon eraill yn ymwneud â gofod y bartneriaeth.

Croeso i’r rhifyn diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd. Mae’r cofnod hwn yn 2-am-1 gan fod Byrddau Llywio a Chynghori 1 a 2 wedi’u cynnal dim ond wythnos ar wahân (29 Hydref a 5 Tachwedd yn y drefn honno).

Dyma’r uchafbwyntiau…


Cymunedau a Phobl Hŷn (BLlaCh1)

Derbyniodd aelodau’r bwrdd diweddariad ar y rhaglen Cymunedau a Phobl Hŷn, gyda ffocws ar ddwy ffrwd waith allweddol – Atal ac Ymyrraeth Gynnar a’r Strategaeth Eiddilwch Ranbarthol.
Nod y ffrwd waith Atal ac Ymyrraeth Gynnar yw helpu unigolion i gadw eu hannibyniaeth a chadw’n iach gartref, a thrwy hynny helpu i leihau’r galw ar wasanaethau cymunedol ac ysbytai.
Hyd yma, cynhaliwyd dau allan o dri gweithdy, gan sefydlu gweledigaeth a themâu ar gyfer ymyrraeth gynnar, yn ogystal ag ymarfer mapio gwasanaeth a dadansoddi data i nodi bylchau a chyfleoedd rhanbarthol.
Mae ffrwd waith y Strategaeth Eiddilwch Ranbarthol yn fenter newydd sy’n cael ei datblygu ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ei nod yw creu system gymorth gynhwysfawr ar gyfer unigolion eiddil yng Ngorllewin Morgannwg. Bu’r gweithdy cyntaf, a gynhaliwyd ar 17 Hydref, o gymorth i nodi’r themâu strategol allweddol a ganlyn:

• Addysg ar eiddilwch
• Adnabod eiddilwch
• Cefnogi pobl i fyw’n dda gydag eiddilwch gartref.

Bydd y strategaeth hon yn integreiddio â ffrydiau gwaith parhaus eraill, gan gynnwys atal, ymyrraeth gynnar ac atal codymau. Mae gweithgareddau ymgysylltu pellach yn cael eu cynllunio i fireinio a gweithredu’r themâu hyn.


Partneriaeth Gofalwyr (BLlaCh1)

Diweddariad cyffrous gan y Rhaglen Partneriaeth Gofalwyr oedd cyhoeddi penodiad y Swyddog Cyswllt Gofalwyr newydd, Rebecca Platt. Mae Rebecca newydd ddechrau ei rôl sydd wedi’i lleoli o fewn NPTCVS ac wedi’i hariannu drwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Mae’n dod â chyfoeth o brofiadau byw gyda hi ac mae’n awyddus i barhau i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda gofalwyr di-dâl a sefydliadau sy’n cynnig cymorth ar draws ein rhanbarth. Un o ddyletswyddau Rebecca fydd Cadeirio’r Fforwm Cyswllt Gofalwyr, a fydd yn cael ei adolygu a’i ail-lansio yn gynnar yn 2025.

Hysbyswyd aelodau’r Bwrdd hefyd am rai heriau o fewn y Rhaglen Partneriaeth Gofalwyr o ran ei strwythur a’i lywodraethu presennol. Mae Arweinydd y Rhaglen wedi cytuno i adolygiad o’r dull gweithredu yn y dyfodol, gan sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau i gael ei gyflawni’n effeithiol ac effeithlon. Er bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn y maes hwn, mae gwaith i’w wneud o hyd i drawsnewid bywydau gofalwyr di-dâl ar draws y rhanbarth.


Lles ac Anabledd Dysgu (BLlaCh2)

Mae’r gwaith trafnidiaeth (blaenoriaeth 1 yn y Strategaeth Anabledd Dysgu Ranbarthol) bellach yn dod i ben. Mae’r siarter teithio, adroddiad y gweithdy trafnidiaeth a’r ffilm trafnidiaeth i gyd yn eu camau olaf o’u cwblhau – gallwch weld y fideo trafnidiaeth ar ein sianel Vimeo Gorllewin Morgannwg – https://vimeo.com/995713927/e98aab1107

Mae gwaith bellach wedi dechrau ar faes blaenoriaeth nesaf y strategaeth – Cael y Gofal a Chymorth Cywir.

Mae’r gwaith o ddatblygu fforwm rhithwir ar gyfer pobl ag anableddau dysgu hefyd ar y gweill. Os oes gennych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! – www.westglamorgan.org.uk/cy/cysylltwch/


Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl (BLlaCh2)

Roedd diweddariad y Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl yn cynnwys y newyddion bod Dr Zoe Fisher bellach wedi dechrau ar ei rôl fel Arweinydd Rhaglen Glinigol. Mae Zoe yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad gyda hi a fydd yn hollbwysig ar gyfer gweithredu’r Strategaeth Lles Emosiynol a Meddyliol Ranbarthol. Rhan o rôl Zoe yw archwilio ‘beth mae lles yn ei olygu i ni?’ i lywio fframwaith lles newydd ar gyfer y rhanbarth. Bydd y fframwaith hwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol. Yn ogystal, mae gwaith yn mynd rhagddo ar fodel comisiynu newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector.


Dementia (BLlaCh2)

Mae sawl menter ar y gweill ar hyn o bryd o ran cymorth Dementia. Yn gyntaf, mae Clinigau Asesu Cof ar draws y rhanbarth yn cychwyn ar ymarfer mapio prosesau cynhwysfawr gyda’r nod o gael dealltwriaeth ddyfnach o’r llwybrau i mewn ac allan o’r gwasanaeth, gan sicrhau bod pob cam o daith y claf yn cael ei optimeiddio. 

Mae Gwelliant Cymru yn cydweithio ag un o dimau’r Gwasanaeth Asesu Cof i ddatblygu rhaglen hunanasesu. Bydd y dull arloesol hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr hyn y mae’r tîm yn ei wneud yn dda ac yn nodi meysydd i’w gwella. 

O ran ein Strategaeth Dementia Ranbarthol, mae cynllunio ymgysylltu bellach ar ei anterth. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd cyfleoedd niferus i bobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, a gweithwyr proffesiynol gymryd rhan. Mae’r dull cynhwysol hwn yn sicrhau bod ystod eang o safbwyntiau’n cael eu casglu i helpu i lunio’r strategaeth.

Mae Ymgyrch Gwrando Baglan yn parhau i gasglu adborth amhrisiadwy am gymorth a gwasanaethau dementia yn y gymuned. Mae’r adborth hwn yn hanfodol i ddeall anghenion a phrofiadau’r rhai yr effeithir arnynt gan ddementia a bydd yn llywio gwelliannau yn y dyfodol. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gyflwyno Ymgyrch Gwrando ar gyfer gogledd Abertawe. Bydd hyn yn anelu at ailadrodd llwyddiant ymgyrch Baglan, gan sicrhau bod lleisiau o bob rhan o’n rhanbarth yn cael eu clywed a’u hystyried.

Yn olaf, rydym yn falch o rannu bod y Groes Goch Brydeinig wedi derbyn cyllid ar gyfer y peilot ‘Dementia Connector’ ar gyfer ein rhanbarth. Bydd y prosiect peilot hwn yn chwarae rhan ganolog wrth gysylltu pobl â dementia â’r adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, gan wella ansawdd eu bywyd.

Cynllun Gweithredu Dementia i Gymru – Dweud Eich Dweud: Ar 18 Tachwedd lansiodd Llywodraeth Cymru arolwg gyda’r nod o gasglu barn pobl ar y meysydd y dylent ganolbwyntio arnynt drwy gydol y broses ymgysylltu ar gyfer cynllun dementia newydd. Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth – Arolwg y cynllun gweithredu ar gyfer dementia | LLYW.CYMRU

Dyna’r cyfan am y tro, byddwn yn ôl gyda mwy o ddiweddariadau ar ôl y Bwrdd nesaf 😊