Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #14
Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!
Daliwch ati i ddarllen am ddiweddariadau ar ein rhaglenni gwaith rhanbarthol a straeon eraill yn ymwneud â gofod y bartneriaeth.
Croeso i rifyn diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd. Mae’r rhifyn hwn yn ffocysu ar Bwrdd Llywio a Chynghori 3 (BLlCh3), a gyfarfu ar 26 Tachwedd ac sy’n canolbwyntio ar gynnydd y Bwrdd Plant a Phobl Ifanc a’r Bwrdd Niwroamrywiol.
Ffocws mawr arall fu Fforwm Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg – digwyddiad Arddangos ‘Gweithio Gyda’n Gilydd’ a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd. Daeth y sesiwn ag ystod eang o sefydliadau ac unigolion ynghyd i ddathlu cyflawniadau ein rhanbarth ac ystyried y camau nesaf ar gyfer gweithio rhanbarthol.
Rhaglen Niwroamrywiol (BLlCh3)
Mae’r Rhaglen Niwroamrywiol yn parhau i ddatblygu Strategaeth Niwroamrywiol Ranbarthol yn defnyddio dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn ac i gefnogi pobl niwroamrywiol a’u teuluoedd (p’un a ydynt wedi cael asesiadau ffurfiol neu peidio).
Bydd grŵp cydgynhyrchu yn cael ei greu, gan gynnwys rhanddeiliaid allweddol a’r rhai sydd â phrofiad fyw, i gynllunio ein dull o ymgysylltu yn y misoedd nesaf, gan ystyried y dulliau gorau o ymgysylltu â phobl sy’n niwroamrywiol. Rydym wedi bod yn brysur yn mapio rhanddeiliaid, gan gynnwys rhwydweithiau presennol, sefydliadau, grwpiau rhanddeiliaid a fforymau partneriaeth eraill a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth lywio a chydgynhyrchu’r strategaeth ranbarthol.
Cafodd aelodau BLlCh3 gyfle i weld stori ddigidol ar y prosiect ‘Gwaith Da’, a ddarparwyd gan y sefydliad ASDES a ariennir drwy Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru. Mae’r sefydliad yn gweithio gydag unigolion awtistig a niwrowahanol i gynllunio ar gyfer cyfleoedd yn y gweithle ac i wella eu hyder a’u hymdeimlad o les.
Rhaglen Plant a Phobl Ifanc (BLlCh3)
Derbyniodd aelodau’r Bwrdd drosolwg o gynnydd blaenoriaethau’r Rhaglen Plant a Phobl Ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Mae ffrwd waith ‘Pontio o Wasanaethau Plant i Oedolion (Anghenion Cymhleth)’ bellach wedi datblygu set o Egwyddorion a Safonau Rhanbarthol a fydd yn gwella gwaith partneriaeth rhwng Gwasanaethau Plant ac Oedolion, gan wella cydweithio aml-asiantaeth, gwneud penderfyniadau a chynllunio.
- Mae ffrwd waith ‘Gwella Mynediad at Gymorth Lles Emosiynol a Chymorth Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc’ wedi bod yn symud ymlaen gyda datblygiad y model rhanbarthol ‘No Wrong Door’. Pwrpas y gwaith hwn yw creu llwybr mynediad integredig a symlach i wasanaethau iechyd, cymunedol a gofal cymdeithasol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc a’u teuluoedd. Byddai hyn yn golygu dull ‘Cysylltiad Cyntaf, Ymateb Cywir’ gyda’r ffocws a’r hyn sydd bwysicaf.
- Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd lansiwyd swyddogol tidyMinds a SortedSupported yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Amgueddfa’r Glannau, Abertawe ar 10 Hydref. Mae’r rhain yn adnoddau ar-lein sy’n darparu mynediad at gymorth iechyd a lles emosiynol i blant a phobl ifanc, oedolion a gweithwyr proffesiynol.
- Mae’r ffrwd waith Llety wedi bod yn adolygu gwasanaethau llety presennol ar gyfer plant sy’n methu aros gyda’u teuluoedd er mwyn deall yn well beth sydd ar gael, ble mae’r bylchau, a sut y gallwn wella’r gwasanaethau, gan sicrhau’r canlyniadau gorau i blant bregus a’u teuluoedd.
Ar 20 Tachwedd, bu aelodau o dîm Gorllewin Morgannwg hefyd yn bresennol yn nigwyddiad Diwrnod Byd-eang y Plant yn Amgueddfa Glannau Abertawe, gan achub ar y cyfle i ofyn i blant a phobl ifanc am eu barn ar flaenoriaethau’r rhaglen a fydd yn llywio ein gwaith wrth symud ymlaen.
Fforwm Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg – Arddangosfa ‘Gweithio Gyda’n Gilydd’
Ar 29 Tachwedd, fe wnaethom gynnal ein Fforwm Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg – Digwyddiad Arddangos ‘Gweithio Gyda’n Gilydd’, digwyddiad gwych wedi’i gynllunio i ddod â phobl ynghyd, rhannu gwybodaeth, a llunio dyfodol cydweithio rhanbarthol.
Roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle i’r rhai a oedd yn bresennol i ddysgu am waith y bartneriaeth a rhannu syniadau. Roedd yr agenda amrywiol yn sicrhau bod gan bawb lwyfan i leisio’u barn ar y ffordd ymlaen ar gyfer cydweithio rhanbarthol.
Un uchafbwynt oedd golwg ar ‘A Day in the Life’ o’r rhai sy’n ymwneud ag ymdrechion rhanbarthol, gan gynnwys Neil Williams, cynrychiolydd gwirfoddol o’r Rhaglen Lles ac Anabledd Dysgu. I ychwanegu elfen creadigol, ymunodd yr artist Laura Sorvala â ni i arlunio profiadau Neil, gan gynhyrchu gwaith celf anhygoel a ddaeth â’r pwnc yn fyw…
Roedd y diwrnod yn llawn egni a chyffro, gydag arddangosiadau difyr a sesiynau rhyngweithiol dan arweiniad Gweilch yn y Gymuned, y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (gweler isod), a Circus Eruption. Ychwanegodd y gweithgareddau fywiogrwydd a hwyl wrth arddangos y gwaith anhygoel sy’n digwydd yn ein cymuned.
Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd y digwyddiad, gan gynnwys y sefydliadau a ymunodd â ni gyda’u stondinau gwybodaeth. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol!
Dyna i gyd oddi wrthym ni am y tro – byddwn yn ôl ar ôl y BLlCh nesaf 😊