Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #18

Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!

Daliwch ati i ddarllen am ddiweddariadau ar ein rhaglenni gwaith rhanbarthol a straeon eraill yn ymwneud â gofod y bartneriaeth.

Croeso i gofnod diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd. Mae’r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar y rhaglenni gwaith rhanbarthol yr adroddir amdanynt i Fwrdd Llywio a Chynghori 2, a gynhaliodd gyfarfod ar 11 Mawrth. Mae Bwrdd Llywio a Chynghori 2 yn canolbwyntio ar y Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl a’r Rhaglen Lles ac Anabledd Dysgu.

Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl

Mae ein Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi cymryd y camau cyntaf tuag at greu rhwydwaith rhithwir newydd o sefydliadau sy’n gweithredu yn y maes Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Bydd y gyfres hon o gysylltiadau’n rhan o rwydwaith ehangach o leisiau ar gyfer y rhanbarth, ac yn cynnig mewnwelediadau a chefnogaeth amhrisiadwy wrth i ni symud ymlaen â’n gweithgareddau ymgysylltu.

Cafodd aelodau Bwrdd Llywio a Chynghori 2 y cyfle i wylio stori ddigidol effeithiol a gynhyrchwyd gan ein Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Gwnaeth y tîm ymweld â mangre New Pathways, elusen sy’n darparu cefnogaeth hanfodol i unigolion sydd wedi profi cam-drin rhywiol. Mae New Pathways wedi derbyn buddsoddiad drwy Bartneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg i gynnig gwasanaethau therapiwtig i oedolion y mae angen cefnogaeth arnynt.

Rhybudd am y cynnwys: Mae’r fideo canlynol yn trafod pynciau sy’n ymwneud â thrais rhywiol.

Gallwch ddod o hyd i straeon digidol ac animeiddiadau esboniadol defnyddiol ar ein sianel Vimeo – www.vimeo.com/westglamorgan.

Rhaglen Lles ac Anableddau Dysgu

Y llynedd gwnaethom rannu gwybodaeth â chi am y prosiect trafnidiaeth, a nodwyd fel y maes blaenoriaeth cyntaf ar gyfer y Strategaeth Anabledd Dysgu. Mae’r gwaith hwn bellach wedi dod i ben ac mae’r cynhyrchion canlynol wedi cael eu creu: 

  • Y Siarter Teithio (a gyd-gynhyrchwyd gyda phobl â phrofiad byw)
  • Animeiddiad Siarter Teithio
  • Adroddiad Prosiect Trafnidiaeth
  • Fideo Prosiect Trafnidiaeth.

Yng nghyfarfod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym mis Chwefror, cyflwynodd Gareth Bartley (Is-gadeirydd Bwrdd y Rhaglen Lles ac Anabledd Dysgu) ganlyniadau’r prosiect Trafnidiaeth, a gwnaeth cais i ysgrifennu at Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Trafnidiaeth, yn ei wahodd i drafod canfyddiadau’r prosiect a sut y gall cwmnïau trafnidiaeth gefnogi pobl ag anabledd dysgu yn well.

Y maes blaenoriaeth nesaf fydd ‘Cael y Gofal a’r Gefnogaeth Gywir‘ a byddwn yn rhannu mwy am gynnydd y maes hwn mewn rhifyn o’n dyddiadur yn y dyfodol.

Dyna bopeth am nawr, byddwn yn ôl gyda rhifyn arall yn dilyn y cyfarfod nesaf 😊