Amdanom Ni
Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gyda’r nod o wella iechyd a lles poblogaeth ein rhanbarth.
Sefydlwyd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a elwid gynt yn ‘Bae’r Gorllewin’, yn 2012 gyda’r diben o integreiddio gwasanaethau’n fwy effeithiol.
Ein nod yw archwilio ffyrdd newydd ac arloesol o weithio i sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy yn wyneb galw cynyddol a hinsawdd ariannol heriol.
Mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn un o saith yng Nghymru. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gefndir a chyd-destun creu’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Rydym yn canolbwyntio ar chwe rhaglen drawsnewidiol sydd yn cael eu darparu yng nghyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.