Adnoddau ar gyfer Sefydliadau
Ydych chi’n sefydliad y mae ganddo ddiddordeb mewn cynnwys gwirfoddolwyr? Mae gennym amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys datblygu cyfleoedd, treuliau, y Gymraeg a llawer mwy!
Gwirfoddoli mewn Cartrefi Gofal – Canllaw arfer dda
Archwiliwch arweiniad cynhwysfawr sy’n amlinellu’r ffyrdd y gall gwirfoddolwyr a’r trydydd sector gyfrannu’n ystyrlon tuag at gartref gofal. Gallwch ddeall ffactorau allweddol y mae angen eu hystyried wrth ystyried cynnwys gwirfoddolwyr, yn ogystal ag opsiynau amrywiol i lywio’ch camau gweithredu nesaf.
Fideo Astudiaeth Achos
Os hoffech weld rhagor o fideos, gweler y rhestr chwarae lawn yma.
Taflenni gwybodaeth
Adnoddau Hyfforddiant
Fel rhan o Brosiect Cymorth Gwirfoddoli Gorllewin Morgannwg (CGGM), datblygwyd cyfres o ddeunyddiau hyfforddi i’w defnyddio gan sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr fel rhan o’u proses sefydlu gwirfoddolwyr. Mae’r modiwlau wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg, fel y gall sefydliadau addasu a chyfeirio at eu polisïau a’u gweithdrefnau eu hunain. Bwriedir i’r modiwlau fod yn rhyngweithiol, gan alluogi i’r rheini sy’n mynychu gymryd rhan, ac i’r hwylusydd wirio dealltwriaeth a dysgu drwy amrywiaeth o ddulliau.
Gellir defnyddio pob modiwl fel modiwl annibynnol neu ochr yn ochr â’r modiwlau eraill yn y pecyn.
Ar gyfer pwy y mae’r pecynnau hyfforddi? Fe’u datblygwyd i helpu sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr gyda’u prosesau sefydlu gwirfoddolwyr.
Beth sydd yn y pecyn hyfforddi? Mae’r pecyn yn cynnwys 5 modiwl. Mae pob modiwl yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint, cynllun sesiwn, nodiadau manwl i’r hyfforddwr a phecyn gweithgareddau.
Mae’r modiwlau sydd ar gael hyd yn hyn yn cynnwys:
-
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Disgrifio beth yw gwirfoddoli, a’i werth i gymdeithas.
- Rhestru’r gwahanol fathau o gyfleoedd a sefydliadau gwirfoddoli.
- Nodi’r cymhellion ar gyfer gwirfoddoli a buddion personol gwirfoddoli.
-
Bydd y sesiwn hon yn caniatáu i gyfranogwyr:
- Restru eich hawliau fel gwirfoddolwr, a’r ffyrdd y cewch eich diogelu
- Disgrifio’n rolau gwirfoddoli – pam maent yn bwysig a beth yw ystyr pob adran mewn perthynas â’ch rôl
- Esbonio’n gofynion cadw cofnodion a pham mae hyn yn angenrheidiol
- Nodi sut mae ein rolau gwirfoddoli’n cyd-fynd â gweithrediadau ein sefydliad, a sut mae pawb yn (nodwch enw’r sefydliad) yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni ein hamcanion/nodau sefydliadol.
-
Bydd y sesiwn hon yn caniatáu i gyfranogwyr:
- Amlinellu pwysigrwydd cyfrinachedd a’i ffiniau
- Disgrifio ffiniau a rheolau sylfaenol mewn perthynas â gwirfoddoli
- Esbonio’r term cydraddoldeb a’r rôl mae pob un ohonom yn ei chwarae
- Cydnabod ac amlinellu pwysigrwydd diogelwch personol wrth wirfoddoli.
-
Bydd y sesiwn hon yn caniatáu i gyfranogwyr:
- Ystyried ac esbonio cyfathrebu geiriol a chyfathrebu dieiriau
- Nodi a gwella sgiliau gwrando
- Rhestru’r rhwystrau i gyfathrebu’n effeithiol
- Datblygu sgiliau gwrando gweithredol
- Diffinio’r gwahaniaeth rhwng cydymdeimlad ac empathi
- Esbonio’r pum cam i wrando’n well
-
Bydd y sesiwn hon yn caniatáu i gyfranogwyr:
- Esbonio beth yw ystyr rheoli gwrthdaro’n effeithiol
- Nodi sut i ragweld ac osgoi sefyllfaoedd anodd
- Disgrifio sut i dawelu anghytundeb
- Rhestru cyngor cyffredinol i osgoi problemau
- Amlinellu hawliau gwirfoddolwr
- Diffinio swyddogaeth a phwrpas goruchwyliaeth a chefnogaeth
Sut i gael mynediad at y pecynnau hyfforddi:
I ofyn am gopi am ddim o’r pecyn neu’r pecynnau, cysylltwch â*:
- CGGA os ydych yn Abertawe drwy e-bostio scvs@scvs.org.uk
- CGGCNPT os ydych yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy e-bostio info@nptcvs.org.uk
*Nodwch ‘Pecynnau Hyfforddi Prosiect CGGM’ yn llinell destun yr e-bost.