Croeso i Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg
Rydym yn dod â sefydliadau a gwirfoddolwyr ynghyd i wella iechyd a llesiant pobl Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Programmes
Cryfhau Cymunedau
Mae’r flaenoriaeth hon yn canolbwyntio ar sut mae ein partneriaid statudol, sefydliadau trydydd sector a gwirfoddolwyr yn gweithio ar y cyd â chymunedau.
Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Mae’r flaenoriaeth hon yn canolbwyntio ar ddatblygu ystod gynyddol o gyfleoedd a hybu iechyd a lles emosiynol da i blant ac oedolion sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.
Trawsnewid Gofal Cymhleth
Mae’r flaenoriaeth hon yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau newydd o ofal iechyd a gofal cymunedol integredig sy’n gynaliadwy yn ariannol ac sy’n cynyddu diogelwch ac annibyniaeth plant ac oedolion ag anghenion cymhleth i’r eithaf, gan eu galluogi i fyw a derbyn gofal yn nes at adref, byw bywydau cyffredin a yn osgoi troi at fathau mwy sefydliadol o ofal yn ddiangen.
Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd a Gofal yn y Cartref
Mae’r flaenoriaeth hon yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymunedol integredig sy’n ariannol gynaliadwy i gefnogi pobl i fyw’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.
Rhaglenni Cefnogol
Rydym hefyd yn darparu ‘Rhaglenni Cefnogol’.
Croeso i’r wefan newydd!
Mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn un o saith menter gydweithredol ranbarthol sy’n gweithredu ledled Cymru. Ein nod yw gwella a thrawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn eu gwneud yn fwy cynaliadwy yn wyneb galw cynyddol a hinsawdd ariannol heriol.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru.
Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol
Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gweithio mewn partneriaeth rhwng partneriaid statudol, trydydd sector, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Cymorth Gwirfoddoli Gorllewin Morgannwg
Mae Cymorth Gwirfoddoli Gorllewin Morgannwg yn brosiect amlasiantaeth sy’n creu adnoddau a rennir i ddatblygu gwybodaeth ynghyd â dulliau rheoli a chydlynu gwirfoddolwyr a sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ar draws ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.