Unpaid carers - header image

Ydych chi’n ofalwr di-dâl?

Ydych chi’n gofalu am aelod o’r teulu, cymydog neu ffrind sy’n dibynnu arnoch chi ac mae angen eich cefnogaeth arno?

Os ydych yn darparu cefnogaeth emosiynol, gorfforol neu ymarferol, beth bynnag fo’ch oedran a phwy bynnag rydych yn gofalu amdano, gallai hyn olygu eich bod yn ofalwr di-dâl.

Hoffech chi gwrdd â gofalwyr di-dâl eraill, cael gwybod am wasanaethau yn eich ardal, a helpu i ddylanwadu ar y cymorth sydd ar gael?

Dewch i’r Digwyddiad Gofalwyr Di-dâl Blynyddol ar ddydd Mawrth 17 Medi 2024.
Mae’r drysau’n agor am 9.00am, a bydd y digwyddiad yn rhedeg o 10.00am – 2.30pm yn Stadiwm Swansea.com.

Archebwch eich tocyn am ddim (sy’n cynnwys cinio): www.ticketsource.co.uk/unpaidcarersevent


Fel gofalwr di-dâl mae gennych hawl i wybodaeth, cyngor a chymorth i’ch helpu yn eich rôl ofalu. Mae cefnogaeth ar gael i chi.

Mae cefnogaeth i ofalwyr di-dâl ar draws y rhanbarth yn cynnwys y canlynol:

  • Darparu cyngor ar fudd-daliadau lles
  • Mynediad at grantiau a all eich cefnogi yn eich rôl ofalu
  • Gwasanaethau Cwnsela 
  • Cefnogaeth arbenigol yn benodol ar gyfer gofalwyr ifanc di-dâl, gofalwyr gwrywaidd, gofalwyr sy’n rhieni a gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia 
  • Cyngor ar ddefnyddio gwasanaethau seibiant a chael seibiant o’ch rôl ofalu 
  • Cymorth i ymgeisio am Asesiadau Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (i gael rhagor o wybodaeth am Asesiadau Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol a sut gallant eich cefnogi yn eich rôl gofalu di-dâl, cliciwch y ddolen isod i we-dudalen eich Cyngor lleol).

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth os ydych yn ofalwr di-dâl 18 oed ac yn hŷn, cysylltwch â’ch gwasanaeth gofalwyr lleol.


Os ydych yn ofalwr ifanc di-dâl, gallwch gael cefnogaeth wedi’i theilwra gan y sefydliadau canlynol yn eich ardal:


Mae nifer o gyfleoedd ar draws y rhanbarth i chi gael seibiant o’ch rôl ofalu. Dewch o hyd i seibiant byr – Seibiannau Byr Cymru (www.shortbreaksscheme.wales/cymraeg/hafan).


Mae gwybodaeth ar gael hefyd gan eich cynghorau lleol, a gallwch gael cymorth ganddynt:


Fforwm Cyswllt Gofalwyr Gorllewin Morgannwg

Os hoffech helpu i lunio a dylanwadu ar wasanaethau a chefnogaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, efallai bydd gennych ddiddordeb mewn ymuno â Fforwm Cyswllt Gofalwyr Gorllewin Morgannwg.

Mae ein Fforwm Cyswllt Gofalwyr yn dod â gofalwyr di-dâl a phobl sy’n gweithio gyda gofalwyr di-dâl at ei gilydd i gefnogi gwaith Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg.

Y weledigaeth yw ‘Creu fforwm lle gall gofalwyr di-dâl greu llais ar y cyd, cael eu clywed a helpu i wneud newid cadarnhaol i wasanaethau iechyd a gofal ym Mhartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg’.

Yn benodol, bwriad y Fforwm yw:

  • cydnabod gofalwyr di-dâl fel trydydd cynheiliad hanfodol y system iechyd a gofal cymdeithasol
  • sicrhau ei fod yn cynrychioli pob math o ofalwr di-dâl
  • cydnabod gofalwyr di-dâl fel arbenigwyr drwy brofiad
  • cysylltu pobl a rhwydweithiau â’i gilydd
  • bod yn llais dylanwadol a gwerthfawr ym Mhartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg, a bod yn gyfaill beirniadol
  • bod yn fan diogel lle gellir trafod materion a dod o hyd i atebion
  • ysbrydoli newid er budd yr holl ofalwyr di-dâl
  • gallu gofyn cwestiynau mawr a helpu i ddod o hyd i’r atebion
  • cefnogi rhagor o ofalwyr di-dâl i gymryd rhan ac ymgymryd â rolau ‘Cynrychiolwyr Gofalwyr Di-dâl’.

Sut i gymryd rhan…

Mae gennym rolau ‘Cynrychiolwyr Gofalwyr Di-dâl’ a chyfleoedd i bobl gyd-gynhyrchu a chyd-lunio gwasanaethau. Os hoffech fod yn rhan o hyn, cysylltwch â ni… E-bostiwch ni!