Partneriaeth Gofalwyr
Mae dros 50,000 o ofalwyr di-dâl ar draws rhanbarth Gorllewin Morgannwg, y mae llawer ohonynt yn darparu gofal sy’n atal yr angen am ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Fel Partneriaeth, rydym wedi nodi ‘cefnogi anghenion gofalwyr’ fel un o’n blaenoriaethau allweddol. Cyflwynir y maes gwaith hwn drwy Fwrdd Partneriaeth Gofalwyr Gorllewin Morgannwg, sy’n cynnwys cynrychiolaeth gan ofalwyr, Cyngor Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Canolfan Gofalwyr Abertawe, Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot, a Chynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Un o’r pethau allweddol y mae’r Bwrdd wedi’i gyflawni yw datblygu Strategaeth Gofalwyr bum mlynedd. Mae’n cydnabod gofalwyr fel trydedd golofn hanfodol y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae copi y gellir ei lawrlwytho o’r Strategaeth ar gael isod, ynghyd â fersiwn ‘Hawdd ei Darllen’:
Fforwm Cyswllt Gofalwyr
Gweledigaeth y Fforwm yw ‘creu fforwm lle gall gofalwyr greu llais ar y cyd, cael eu clywed a helpu i wneud newid cadarnhaol i wasanaethau iechyd a gofal ym Mhartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg’.
Yn benodol, bwriad y Fforwm yw:
- cydnabod gofalwyr fel trydedd golofn hanfodol y system iechyd a gofal cymdeithasol.
- cydnabod gofalwyr fel arbenigwyr drwy brofiad.
- sicrhau ei fod yn cynrychioli pob math o ofalwr.
- cysylltu pobl a rhwydweithiau â’i gilydd.
- bod yn llais dylanwadol a gwerthfawr ym Mhartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg, a bod yn gyfaill beirniadol.
- bod yn fan diogel lle gellir trafod materion a dod o hyd i atebion.
- ysbrydoli newid er budd yr holl ofalwyr.
- gallu gofyn cwestiynau mawr a helpu i ddod o hyd i’r atebion.
- cefnogi mwy o ofalwyr i gymryd rhan ac ymgymryd â Rolau Cynrychioliadol.
Dogfennau Strategaeth
Sut i gymryd ran
Mae gennym rolau Gofalwr Cynrychiadol a chyfleoedd i bobl gyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio gwasanaethau sy’n cyflawni yn erbyn yr uchelgeisiau a amlinellir yn ein Strategaeth, cysylltwch â ni: