Rhaglen Cymunedau a Phobl Hŷn
Rhaglen waith newydd ar gyfer Gorllewin Morgannwg yw hon sy’n canolbwyntio ar ddatblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymunedol sy’n integredig ac yn gynaliadwy yn ariannol
Nod y Rhaglen hon yw cyflawni’r canlynol:
- Galluogi unigolion i aros yn annibynnol ac yn eu cartref eu hunain cyhyd ag y bo modd
- Cynyddu gwasanaethau seibiant yn unol â galw cynyddol
- Cryfhau’r model Rhyddhau i Adfer ac Asesu Llwybrau a sicrhau bod y cynnig ar gyfer y rheini sy’n gadael yr ysbyty yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw
- Sicrhau rhyddhad diogel ac amserol o’r ysbyty
- Datblygu a gwella gofal atal cwympiadau
- Lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd
- Parhau i wneud Gorllewin Morgannwg yn Rhanbarth sy’n Ystyriol o Ddementia
- Datblygu a gwella dulliau atal i leihau’r angen am ofal acíwt a thymor hir
- Darparu darpariaeth gofal gynaliadwy
- Sicrhau ansawdd uchel o ofal mewn cartrefi gofal.