Rhaglen Dementia

Rhaglen Dementia

Nod rhaglen Dementia Gorllewin Morgannwg yw goruchwylio datblygiad Strategaeth Dementia Ranbarthol a rhoi Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan ar waith.

Mae’r gair ‘dementia’ yn disgrifio cyfres o symptomau sy’n gallu effeithio ar eich cof, eich sgiliau datrys problemau, eich iaith a’ch ymddygiad sy’n gallu gwaethygu dros amser. Gall dementia effeithio ar berson o unrhyw oedran ond mae’n fwy cyffredin ymhlith pobl dros 65 oed. Mae dros 200 is-deip o ddementia, a’r rhai mwyaf cyffredin yw clefyd Alzheimer, dementia fasgwlaidd a dementia cymysg. Diffinnir dementia cynnar fel symptomau dementia mewn pobl dan 65 oed.

Mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn ymroddedig i wella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, drwy ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac wedi’u targedu. Mae’r rhanbarth yn y broses o gyd-gynhyrchu Strategaeth Dementia Ranbarthol ac mae’n gweithio gyda chyd-weithwyr ar hyn o bryd i roi Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan ar waith.