Rhaglen Niwrowahaniaeth
Mae’r Rhaglen hon wedi’i sefydlu i sicrhau bod gan bobl sydd â chyflyrau Awtistiaeth a Niwroddatblygiadol fynediad at wasanaethau a fydd yn eu galluogi i fyw bywydau cyflawn, ac i gymryd rhan lawn yn eu cymunedau.
Amcanion allweddol y Rhaglen hon yw:
- Sicrhau bod grwpiau’n cael eu ffurfio ar lefel leol i gefnogi rhyngweithio cymdeithasol a chyfleoedd cyflogaeth
- Lleihau nifer y bobl sy’n aros am asesiad diagnostig
- Datblygu a gwella argaeledd gwasanaethau ataliol
- Darparu mynediad priodol ac amserol at wasanaethau iechyd meddwl a lles
- Gwella gwasanaethau pontio plentyn i oedolyn
- Cynllunio pellach o ran gofynion y Ddeddf ADYTA ynghylch gwasanaeth addysg cwbl gynhwysol
- Sicrhau dealltwriaeth gyffredin a chysondeb ar draws partneriaid yn y ffordd y caiff data ei gofnodi a’i ddadansoddi
- Dadansoddiad pellach i gynllunio ar gyfer anghenion poblogaeth y rhanbarth
- Ymgysylltu â phobl ag awtistiaeth a’u gofalwyr i lywio datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol
- Rhannu gwybodaeth yn well rhwng sefydliadau partner a phobl, yn enwedig o ran y gwasanaethau sydd ar gael ar draws y rhanbarth.