Rhaglen Plant a Phobl Ifanc
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar Blant a Phobl Ifanc (PPI) y mae angen cymorth arnynt gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, fel Plant sy’n Derbyn Gofal (y rheini sydd dan ofal yr awdurdod lleol) a PPI ag anghenion cymhleth.
Un o egwyddorion sylfaenol y gwaith hwn yw dilyn ‘dull system gyfan’ a fydd yn rhan o fframwaith newydd ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer PPI (sy’n cwmpasu’r sectorau statudol a gwirfoddol).
Bydd y rhaglen yn anelu at weithio’n agos gyda PPI, eu gofalwyr, eu teuluoedd, cymunedau lleol a rhanddeiliaid pwysig eraill er mwyn cyfleu ‘llais y plentyn’.
Y cynllun ar gyfer y pum mlynedd nesaf fydd cyflawni’r canlyniadau strategol canlynol:
- Lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd
- Parhau i ddatblygu a rhoi’r fframwaith NYTH ar waith
- Datblygu a gwella gwasanaethau Lles Emosiynol PPI
- Cynyddu digonolrwydd lleoliadau addas ar gyfer PPI yn y rhanbarth
- Datblygu a gwella gwasanaethau gofal ar ddechrau a diwedd dydd i deuluoedd er mwyn hybu cadw teuluoedd gyda’i gilydd
- Datblygu mwy o adnoddau a chymorth cymunedol i atal plant rhag dod yn blant sy’n ‘derbyn gofal’
- Datblygu a gwella’r gwasanaethau ymyrryd yn gynnar ac atal
- Cefnogi hyrwyddo ‘llais y plentyn’ ar draws y rhaglen er mwyn helpu i gydgynhyrchu gwasanaethau
- Datblygu datrysiadau tai i gefnogi teuluoedd, yn enwedig i gefnogi PPI â phroblemau iechyd meddwl neu anabledd dysgu
- Sicrhau bod cynllunio yn seiliedig ar gasglu data cywir a demograffeg.